Header

Newyddiadurwyr Darlledu / Ymchwilwyr


Job Ref. No
973455
Location
Cardiff
Contract Type
Attachment/Fixed Term
Contract Duration
11 months
Job Category:
Journalism
Closing date for applications
8 January 2013 at 11:59pm

Department

Mae'r adran yn darparu gwasanaeth newyddion a materion cyfoes ar gyfer Radio Cymru, S4C a'n gwefannau newyddion saith diwrnod yr wythnos. Mae'r staff yn gweithio yn bennaf yn y canolfannau ym Mangor a Chaerdydd, ond mae gohebwyr a rhai aelodau o'r tim yn gweithio o leoliadau eraill ardraws Cymru.

Role

Mae gwaith Newyddiadurwr yn amrywiol iawn, ac yn dibynnu i raddau helaeth ar ba rôl y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd a hi. Ymhlith y tasgau mae: ymchwilio i straeon, helpu i gynhyrchu rhaglenni ar radio a theledu, ysgrifennu a darlledu bwletinau, ysgrifennu straeon ar ein gwefan newyddion, a gohebu. Mae'r oriau gwaith yn gallu amrywio yn fawr hefyd - o oriau man y bore hyd unarddeg o’r gloch y nos, ynghyd a gwaith ar benwythnosau.

Requirements

Fel Newyddiadurwr Darlledu, mae angen trwyn am stori a'r gallu i ddatblygu syniadau ar gyfer rhaglenni. Mae Cymraeg cywir a sgiliau ysgrifennu o'r radd flaenaf yn hanfodol. Mae'r swydd yma ar radd sylfaenol newyddiaduraeth. Byddai’n fanteisiol bod gan yr ymgeisydd llwyddianus naill ai gymhwyster newyddiadurol cydnabyddiedig neu brofiad addas, ond gellir ystyried rol newyddiadurwr dan hyfforddiant. Mi fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i weithio yn effeithiol dan bwysau ac i gwblhau gwaith yn gyflym ac yn effeithiol. Mae dealltwriaeth o faterion cyfreithiol a golygyddol yn allweddol, ynghyd ag ymwybyddiaeth o anghenion y gynulleidfa.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Golygydd Newyddion Radio Cymru Bethan Robertsbethan.roberts.01@bbc.co.uk neu Olygydd Newyddion Sharen Griffith sharen.griffith@bbc.co.uk
 
(Cyfweliadau i’w cynnal yn ystod wythnos Ionawr 14eg)
This is an advert for a Journalist / Researcher. The ability to communicate effectively through the medium of Welsh, both orally and written, is essential for this role.