Header

Cynhyrchydd (Radio Cymru)


Job Ref. No
995122
Location
Bangor
Contract Type
Attachment/Fixed Term
Contract Duration
09 months
Job Category:
Content Making
Closing date for applications
21 February 2013 at 11:59pm

Department

Mae Radio Cymru yn orsaf radio genedlaethol sydd yn darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r orsaf yn ceisio gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oedran a diddordeb. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, rhaglenni trafod gwleidyddiaeth, crefydd, celfyddydau a llawer mwy heb son am gynnig gwasanaeth newyddion a chwaraeon llawn. Ceir staff drwy Gymru gyfan ond mae dwy brif ganolfan un yng Nghaerdydd a'r llall ym Mangor. Lleolir y swydd hon ym Mangor.

Role

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag ac arwain timau cynhyrchu er mwyn creu rhaglenni creadigol, llawn dychymyg sydd yn mynd i apelio at ein cynulleidfaoedd amrywiol a chynnig syniadau arloesol allai ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r gwasanaeth.

Requirements

Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

Profiad mewn stiwdios a dealltwriaeth dda o ofynion darllediadau byw a rhai wedi eu recordio.

Gwybodaeth drylwyr am dechnegau cynhyrchu radio effeithiol a’u defnydd mewn amrywiaeth o ddarllediadau.

Dealltwriaeth o arddull a chyfeiriad Radio Cymru ynghyd â gwybodaeth drylwyr o’r orsaf a’i rhaglenni.

Y gallu i weithio i frîff ac oddi fewn i gyllideb ac i wneud y defnydd gorau posib o’r adnoddau sydd ar gael.
Am fwy o fanylion cysylltwch ag Irfon Jones ar: 01248 374978 neu irfon.jones@bbc.co.uk  
This is an advert for a Producer.  The ability to communicate effectively through the medium of Welsh, both orally and written, is essential for this role.