- Job Ref. No
- 1001446
- Location
- Bangor
- Contract Type
- Fixed Term
- Contract Duration
- 06 months
- Job Category:
- Business & Support
- Closing date for applications
- 26 February 2013 at 11:59pm
Canolfan y BBC ym Mangor yw'r ail fwyaf yng Nghymru ac mae'n gyfrifol am gynnyrch teledu a radio a chynnwys ar-lein ar gyfer gwasanaethau Cymraeg a Saesneg y BBC.
Rydym yn chwilio am dderbynnydd brwdfrydig i ymuno â'n tîm.
Chi fydd yn croesawu aelodau o'r cyhoedd i'n hadeilad ac yn cyfarch gwesteion sy'n dod i gymryd rhan yn ein rhaglenni. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu delio â'r cyhoedd yn hyderus a chwrtais ac yn gallu ymdopi â dyletswyddau gweinyddol amrywiol.
Disgwylir i chi feddu ar sgiliau trefnu a sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf, yn ogystal â'r gallu i ymdrin â'r cyhoedd beth bynnag fydd pwrpas eu hymweliad â’r BBC ym Mangor. Bydd diddordeb yn allbwn BBC Bangor a’r BBC yn gyffredinol yn fanteisiol.
Mae'r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol.
Bydd gennych wybodaeth a phrofiad am arferion a systemau swyddfa a switsfyrddau ffôn. Bydd eich sgiliau rhyngbersonol yn ardderchog, h.y. y gallu i ddelio ag ystod eang o bobl yn ddiplomyddol yn hanfodol, yn ogystal â’r gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm bychan.
Bydd sgiliau bysellfwrdd a gwybodaeth am Word ac Excel o fantais.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Bethan Williams, Pennaeth y Gogledd, BBC Cymru Wales ar 01248 374905
This is an advert for a Receptionist. The ability to communicate effectively through the medium of English and Welsh, both orally and in writing, is essential for this role.
Post a Comment