Header

Ymchwilwyr (Radio Cymru) x 4


Job Ref. No
1014724
Location
Multi Location - Wales
Contract Type
Attachment/Fixed Term
Contract Duration
09 months
Job Category:
Content Making
Closing date for applications
4 April 2013 at 11:59pm

Department

Mae Radio Cymru yn orsaf radio genedlaethol sydd yn darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r orsaf yn ceisio gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oedran a diddordeb. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, rhaglenni trafod gwleidyddiaeth, crefydd, celfyddydau a llawer mwy heb sôn am gynnig gwasanaeth newyddion a chwaraeon llawn. Ceir staff drwy Gymru gyfan ond mae dwy brif ganolfan un yng Nghaerdydd a'r llall ym Mangor.
 
2 x cytundeb 9 mis ym Mangor
1 x cytundeb 9 mis yng Nghaerdydd
1 x cytundeb 12 mis yng Nghaerdydd 

Role

Byddwch yn gweithio’n agos gyda nifer o gynhyrchwyr a gweddill y tîm golygyddol i sicrhau cynnwys i raglenni Radio Cymru fydd yn cipio dychymyg y gynulleidfa. Byddwch yn gyfrifol am ymchwilio ar ran amrywiol raglenni dyddiol ar Radio Cymru ac yn helpu i ymchwilio ar gyfer rhaglenni newydd neu raglenni unigol. Bydd disgwyl i chi weithio gyda thimau cynhyrchu mewn digwyddiadau a darllediadau allanol ac i helpu i gynhyrchu rhaglenni pan fo angen.

Requirements

Bydd gennych profiad mewn stiwdios a dealltwriaeth dda o ofynion darllediadau byw a rhai wedi eu recordio. Bydd gwybodaeth drylwyr gennych am dechnegau ymchwilio a’u pwysigrwydd o fewn amrywiaeth o ddarllediadau yn ogystal â dealltwriaeth o arddull a chyfeiriad strategol Radio.

Bydd gennych brofiad sylweddol mewn ymchwilio i wahanol feysydd ac o ddelio gyda chyflwynwyr, cyfranwyr ag artistiaid, dealltwriaeth o’r we a sgiliau perthnasol yn fuddiol a’r hyder i gynnig syniadau llawn dychymyg i dimau cynhyrchu.

Mae diddordeb gadarn ym mywyd, materion a diwylliant Gymreig a gwybodaeth drylwyr o Gymru ac anghenion y gynulleidfa Gymraeg ei hiaith yn hanfodol yn ogystal â sgiliau trefnu da wrth flaenoriaethu gwaith.
This is an advert for 4 x Researchers (Radio Cymru). The ability to communicate effectively through the medium of Welsh, both orally and written, is essential for these roles.